Ysgogwr Newid Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol


Yr ydych yma: Newyddion > Ysgogwr Newid Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Cyngor Tref Cricieth yn Ysgogwr Newid Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 

Mae Cyngor Tref Cricieth wedi’i ddewis gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol fel un o ‘100 o Ysgogwyr Newid’ - pobl sy’n sicrhau newid cadarnhaol yng Nghymru. Dywedodd y Cyng. Sian Williams, Cadeirydd y Cyngor Tref;

“Mae’n anrhydedd i Gyngor Tref Cricieth fod yn un o’r 100 o Ysgogwyr Newid yng Nghymru. Mae hyn i gydnabod ein mentrau niferus i wella'r ardal ac i gynyddu nifer yr ymwelwyr. Fe wnaethom ddatblygu Cynllun Cymunedol uchelgeisiol sy’n cynnwys ffocws ar weithgarwch diwylliannol, creu lleoedd a llesiant. Comisiynwyd cerflun cyhoeddus ynghyd â cherddoriaeth a barddoniaeth newydd, sioeau cymunedol, map tref artistig, paneli dehongli treftadaeth ynghyd â llawer o weithgareddau eraill sydd, gyda’i gilydd, wedi annog cydlyniant  cymunedol, cynyddu nifer yr ymwelwyr, cefnogi masnachwyr lleol a chynnal ysbryd y dref trwy’r pandemig a thu hwnt.”

Cyhoeddodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru y rhestr 100 sy’n eang ac yn ysbrydoledig ac yn cwmpasu unigolion a sefydliadau sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru. Dywedodd Clerc y Cyngor Tref, Dr Catrin Jones a gynrychiolodd y Cyngor mewn digwyddiad a gynhaliwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 24 Ionawr:

“Mae’n wych bod ymhlith rhestr o feirdd, gweithwyr sector cyhoeddus, dylanwadwyr, busnesau, a gwirfoddolwyr sy’n helpu i wreiddio’r nodau llesiant ledled Cymru ac i ymddangos mewn rhestr ochr yn ochr â’r actor a’r ymgyrchydd Michael Sheen. Cefais gyfle i eistedd ar Gadair gyntaf Cenedlaethau’r Dyfodol a grëwyd ac a ddyluniwyd gan y  crefftwr Tony Thomas mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sy’n cynnwys geiriau a ddewiswyd gan grŵp ymgyrchu Hinsawdd Cymru. Bydd y gadair yn cael cartref yn  Ystafell Gabinet Llywodraeth Cymru i atgoffa Gweinidogion o fuddiannau cenedlaethau’r dyfodol wrth wneud penderfyniadau.”

Dywedodd Sophie Howe sydd a’i chyfnod yn dirwyn i ben fel Comisiynydd :

“Roedd y digwyddiad yn ymwneud â chydnabod rhai o’r bobl sy’n arddangos yr hyn sy’n digwydd pan fyddwn yn rhoi llesiant yn gyntaf, yn gweithio gyda’n gilydd ac yn ystyried goblygiadau hirdymor ein gweithredoedd, ac yn amlygu’r angen i gefnogi’r rhai sy’n gwneud newidiadau fel y gallant wella cymdeithas i bawb. Rydym am i eraill rannu’r bobl sy’n eu hysbrydoli, a chadw’r momentwm i fynd nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Wrth annerch y digwyddiad, diolchodd y Prif Weinidog Mark Drakeford AS i Sophie Howe am bopeth yr oedd wedi’i gyflawni yn ystod ei saith mlynedd yn y swydd. Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i groesawu’r Comisiynydd newydd Derek Walker, a fydd yn dechrau yn ei swydd ar 1 Mawrth 2023.