Mae Criccieth yn dref arfordirol hardd yn ardal Eifionydd, Gwynedd yng Ngogledd Cymru. Mae'r dref 5 milltir i'r gorllewin o Borthmadog, 8 milltir i'r dwyrain o Bwllheli a 18 milltir i'r de o Gaernarfon. Poblogaeth Criccieth, yn ôl cyfrifiad 2011, yw 1,753.
Y cyfeiriad cyntaf at y dref yw pan adeiladodd Llywelyn Fawr y castell cyntaf yno yn y 13eg ganrif ar y graig a enwir Cruciaeth. Y nesaf, a'r mwyaf swyddogol, yw pan ysgrifennwyd yn y siarter i wneud y dref yn fwrdeistref a'i lofnodi gan Edward I yn Aberteifi ar 22 Tachwedd, 1284, ble gelwid y dref yn 'Crykyth'.
Yn yr oesoedd canol roedd Criccieth yn cael ei adnabod fel Treferthyr (Martyr's Town). Awgrymir, ond nid yw hyn wedi ei brofi yn bendant, fod hyn yn cyfeirio at St Catherine y mae Eglwys y plwyf wedi ei enwi ar ei hôl. Heddiw, mae'r ysgol gynradd yn cael ei adnabod fel Ysgol Treferthyr.
Cynnwys i ddilyn.