Yr ydych yma: Newyddion > GWAITH AILWYNEBU ARFAETHEDIG A497 CRICCIETH
GWAITH AILWYNEBU ARFAETHEDIG A497 CRICCIETH
Mae’r gwaith uchod wedi ei raglennu i gychwyn ar 12 o Ionawr, 2022. Hogan Adeiladwaith Cyf yw contractwyr y gwaith, a dylai’r broses wynebu gymryd hyd at 3 wythnos i’w gwblhau. Bydd y gwaith yn dechrau ger Cigydd K.E.Taylor ac yn gorffen wrth gyffordd Lôn Geraint. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal yn ystod y dydd a min nos. Gwneir hyn er mwyn lleihau cyfnod y gwaith. Bydd y gwaith nos yn gorffen am hanner nos. Gwnaed y penderfyniad i ymgymryd â’r gwaith adeg yma o’r flwyddyn gan fod lefel traffig a thwristiaeth yn is na’r arfer, gan obeithio y bydd hyn yn lleihau aflonyddwch i’r dref. Dros gyfnod y gwaith mae’n anochel y bydd yna beth anhwylustod i drafnidiaeth, busnesau ac eiddo lleol. Cymeraf y cyfle i ymddiheuro am hynny ymlaen llaw. Er hwyluso’r gwaith fynd yn ei flaen byddai’n fantais fawr pe gallai trigolion lleol gadw eu cerbydau oddi ar y ffordd dros gyfnod y gwaith. Mae parcio am ddim wedi cael ei drefnu yn maes parcio Y Maes. Byddwn yn ddiolchgar i chwi gysylltu â Mr Euron Gwyn Jones ar y rhif cyswllt uchod pe bae gennych anghenion arbennig y dylai’r Cyngor fod yn ymwybodol ohonynt, neu i fy hysbysebu o unrhyw fater arall y teimlwch sydd yn berthnasol i’r gwaith.