Grŵp Cyswllt Cleifion, Hwb Iechyd Eifionydd


Yr ydych yma: Newyddion > Grŵp Cyswllt Cleifion, Hwb Iechyd Eifionydd

 Yn dilyn sefydlu Hwb Iechyd Eifionydd, mae Grŵp Cyswllt Cleifion wedi'i greu i weithredu fel cyswllt rhwng cleifion â'r tîm rheoli lleol.

Cafodd Hwb Iechyd Eifionydd ei greu ym mis Medi 2020 pan unodd Canolfan Iechyd Cricieth a Meddygcare Porthmadog, a hynny o dan reolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae'r Grŵp newydd yn drawstoriad o gleifion ac yn adlewyrchu amrywiaeth trigolion yr ardal. Mae gan rai hefyd brofiadau proffesiynol mewn meysydd perthnasol.

Yr aelodau yw:

Mr Selwyn Griffiths, Porthmadog (Cynrychioli preswylwyr hŷn Eifionydd)
Mrs Ceri Roberts, Cartrefi Gofal Cariad Care Homes (Cynrychioli Cartrefi Gofal a Nyrsio’r ardal)
Miss Llio Williams, Llanystumdwy (Gweithwraig Gymdeithasol)
Mrs Esyllt Williams, Garndolbenmaen (Pennaeth, Ysgol Gynradd Beddgelert)
Mrs Bethan Price, Criccieth (Ymgynghorydd Cyfathrebu)
Dr. Darren Cornish, Arweinydd Clinigol GP (HIE)
Mrs Carys Greer, Rheolwraig y Practis (HIE)
Mrs Sioned Thomas, Rheolwr Gwasanaeth Iechyd (HIE)

Prif bwrpas y Grŵp Cyswllt Cleifion yw hwyluso cysylltiadau da rhwng y feddygfa a'u cleifion. Drwy rannu profiadau cleifion y nòd ydi gwella cyfathrebu ac ymgysylltu. Bydd y Grŵp hefyd yn gweithio mewn dull cadarnhaol gyda staff y feddygfa i wella gwasanaethau ac i wrando a thrafod materion sy’n cael eu codi gan y staff all effeithio ar gleifion.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Datganiad i'r Wasg