Rhybydd Cyhoeddus Criccieth


Yr ydych yma: Newyddion > Rhybydd Cyhoeddus Criccieth

Cyngor Tref Criccieth

Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2024

1: Dyddiad cyhoeddi 16 Mehefin 2024

2: Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:

Dr Catrin Jones,
Clerc Cyngor Tref Criccieth
Cae Gwenllian
Pentrefelin
Criccieth LL52 0RB
Ebost: clerccriccieth@gmail.com
Ffon: 01766 523294

Rhwng yr oriau o 14.00 a 17.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener. Yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2024 ac yn dod i ben ar 26 Gorffennaf 2024

3: O 12 Medi 2024, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi ei gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:

  • yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r cyfrifon.
  • yr hawl i ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a mynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r rhybudd ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.

Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu drwy e-bost yn archwiliadcyngorcymunedol@archwilio.cymru.

4: Cynhelir yr archwiliad o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.