Pleidleisiwch am Cricieth Creadigol


Yr ydych yma: Newyddion > Pleidleisiwch am Cricieth Creadigol

...I ennill gwobr y Bobl

Rydym yn hynod gyffrous a balch  bod Cyngor Tref Criccieth wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau Bywydau Creadigol. 

Mae Cricieth Creadigol yn un o 36 o grwpiau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer oherwydd ein gweithgaredd creadigol.  Ni yw’r unig grŵp o Ogledd Cymru ar y rhestr.

Dewisir enillydd o Loegr, Iwerddon / Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, ac mae pob grŵp yn chwilio am y cyhoedd i bleidleisio drostynt i ennill Gwobr Dewis y Bobl. Mae'r pleidleisio bellach ar agor a gallwch bleidleisio drosom yma tan 27 Ionawr 2023: https://www.creative-lives.org/cricieth-creadigol-creative-criccieth

Mae ein gwaith yn 2022 wedi’i ysbrydoli gan y cysyniad o greu lleoedd i gryfhau’r cysylltiad rhwng pobl a’r lleoedd y maent yn eu rhannu. Mae hyn wedi cynnwys ail-ddychmygu ac ailddyfeisio ein mannau cymunedol gan gynnwys ein Neuadd Goffa a ddathlodd ei chanmlwyddiant eleni. Mae’r gwaith creadigol wedi cynnwys agweddau digidol, llawer o baent, celf a chrefft - hyd yn oed perfformio a garddio i ddathlu ein hanes a’n treftadaeth, i gynyddu bywiogrwydd ein cymuned tra hefyd yn gwella ansawdd bywyd trwy ymgysylltu â thrigolion a lledaenu negeseuon cyfeillgarwch, caredigrwydd a chynwysoldeb. Mae'r ymdrech greadigol hon wedi cael effaith aruthrol yn lleol ar drigolion ac ymwelwyr. Yn ehangach mae wedi estyn allan yn fyd-eang ar gyfryngau cymdeithasol, ac yn y wasg ac ar y teledu. Rydym wedi croesawu ffoaduriaid o Wcráin i’n cymuned ac wedi eu cynnwys yn ein gwaith creadigol.

Dywedodd y Cyng. Sian Williams, Cadeirydd Cyngor Tref Cricieth:

Mae’r  Cyngor Tref wedi adeiladu ar ei hanes o ymgysylltu creadigol ac wedi hwyluso nifer o brosiectau cymunedol llawn dychymyg sydd wedi cynnwys gwirfoddolwyr di-rif yn eu dylunio a’u creu. Rydym wrth ein bodd bod ein prosiectau creadigol wedi’u cydnabod gyda Gwobr Bywydau Creadigol Cymru yn 2021 a’n bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau 2022. Ni yw’r unig grŵp o Ogledd Cymru sydd ar y rhestr fer.  Mae ein prosiectau, llawer mewn partneriaeth, wedi cynnwys nifer fawr o gymdeithasau gwirfoddol, ysgolion lleol, Coleg Meirion-Dwyfor, artistiaid unigol a thalentau creadigol eraill. Yn ogystal â hyrwyddo creadigrwydd maent wedi helpu i frwydro yn erbyn unigrwydd ac yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. Diolch yn fawr iawn i bawb sy’n cyfrannu ac yn ein cefnogi ar ein siwrne o greadigrwydd cymunedol. Gallwch bleidleisio i ni am Wobr Dewis y Bobl tan 27 Ionawr 2023.”

 

Pleidleisio yn Cau 27/01/23

Pleidleisiwch yma