Mantell o Flodau Cricieth


Yr ydych yma: Newyddion > Mantell o Flodau Cricieth

Mae Mantell o Flodau Cricieth yn cael ei harddangos yn adeilad Senedd Cymru drwy mis Tachwedd eleni. Cafodd y Fantell ei chreu yn 2020 yn ystod cyfnod y pandemig yn dilyn apêl y Cyngor Tref am wirfoddolwyr i helpu i “baentio’r dref yn goch” drwy wau a chrosio pabïau.

Ysbrydolodd y prosiect y preswylydd lleol Susan Humphries i greu Gŵn Pabi, a daeth y 5,000 o babïau a wnaed gan dros 150 o wirfoddolwyr yn drên ar gyfer y ffrog. Dywed Susan:

“Roedd creu’r gŵn pabi, a ysbrydolwyd gan y prosiect cymunedol, wedi fy nghadw i fynd trwy’r rhan fwyaf o’r cloi. Mae’r trên o babïau cymunedol yn rhywbeth arbennig mewn gwirionedd.”

Mae’r arddangosfa, sy’n cael ei noddi gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan AS, yn rhedeg o’r 2 Tachwedd hyd 29 Tachwedd i gyd-fynd gyda’r cyfnod cofio blynyddol i goffau'r rhai a gollwyd yn ystod y ddau Ryfel Byd. Dywedodd Liz Saville Roberts, AS

“Mae’r ddynes yn symbol o’r golled a ddioddefwyd gan y gymuned gyfan. Wedi’i gwisgo mewn gwisg pabïau, mae hi wedi’i lapio yn y galar y bu’n rhaid i gynifer o fenywod ei ddioddef.”

Mae’r wisg eisoes wedi cael sylw ar S4C a’r BBC ledled y wlad a chafodd effaith fawr a byd-eang ar-lein. Cyfrannodd hefyd i lwyddiant Cyngor Tref Cricieth i sicrhau ennill Gwobr Genedlaethol Bywydau Creadigol 2021. Wrth fyfyrio am y Fantell, dywed Gwyneth Glyn

“Mi gofia’ i’r tro cyntaf imi weld y wisg goch eiconig yn cael ei harddangos yn ffenest Siop yr Eifion ar stryd fawr Cricieth. Mi sefais yn fy unfan, wedi fy syfrdanu! Roedd hi’n symbol o gariad, o golled, ond hefyd o gryfder. Fe’i gwelais hi wedyn, wedi’i harddangos yn y Neuadd Goffa, ac roedd ei harwyddocâd yn fwy dirdynnol byth yng nghyd-destun 'y rhwyg o golli’r hogia’. Mae mwy na phabis gwlân wedi eu gwau i mewn i’r wisg; yn wir, mae’r wisg ei hun wedi’n gwau ni, ferched Cricieth, yn nes at ein gilydd, ac yn nes at ferched ddoe a heddiw yn eu colled a’u cryfder.”

Yn ôl y Cyng. Sian Williams, Cadeirydd y Cyngor Tref -

“Mae’r Fantell ryfeddol hon gydag apêl ryngwladol yn ei symbolaeth o golled ac mae’n haeddu llwyfan genedlaethol. Braint yw medru ei harddangos yn adeilad Senedd Cymru adeg y Cofio eleni. Mae’n wefreiddiol gweld y Fantell yn dod yn fyw gyda Gwyneth Glyn yn ei gwisgo ar draeth Cricieth.”

Lluniau gan Andrew Kime yn Neuadd Goffa Criccieth
Llun o Gwyneth Glyn yn gwisgo’r Fantell gan Terry Mills