Mae'r Cynghorydd Ffion Meleri Gwyn , Cyngor Tref Criccieth Wedi Ennill Gwobr ‘Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau


Yr ydych yma: Newyddion > Mae'r Cynghorydd Ffion Meleri Gwyn , Cyngor Tref Criccieth Wedi Ennill Gwobr ‘Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau

Y GELF O DDANGOS CARIAD LLEOL I GRICCIETH AR DDYDD SAN FOLANT

  • MAE’R CYNGHORYDD FFION MELERI GWYN , CYNGOR TREF CRICCIETH WEDI ENNILL GWOBR ‘HYRWYDDWR CELFYDDYDAU GORAU – CYNGHORYDD’ GWOBRAU HEARTS FOR THE ARTS 2022.
  • MAE’R GWOBRAU WEDI’U DYFARNU GAN WEITHWYR PROFFESIYNOL UCHEL EU PROFFIL YM MEYSYDD Y CELFYDDYDAU, BUSNES A NEWYDDIADURIAETH: ANDY DAWSON, KRISHNAN GURU-MURTHY, KADIATU KANNEH-MASON, SHAPARAK KHORSANDI, ANNA LAPWOOD, DEBORAH MEADEN, JACK THORNE AC YMDDIREODOLWR YMGYRCH GENEDLAETHOL Y CELFYDDYDAU, SAMUEL WEST.
  • BYDD Y GWOBRAU’N CAEL EU CYFLWYNO GAN SAMUEL WEST A BEIRNIAID GWADD ARBENNIG YN SEREMONI WOBRWYO DDIGIDOL HEARTS FOR THE ARTS SYDD I’W CHYNNAL GAN Y GYMDEITHAS LLYWODRAETH LEOL AR DDYDD LLUN 7 MAWRTH 2022
  • GWOBRAU BLYNYDDOL YW RHAIN SY’N CYNRYCHIOLI ARWYR CELFYDDYDAU TAWEL AWDURDODAU LLEOL Y DEYRNAS UNEDIG, WEDI’U CYFLWYNO GAN YMGYRCH GENEDLAETHOL Y CELFYDDYDAU MEWN PARTNERIAETH Ȃ COMMUNITY LEISURE UK, CREATIVE LIVES, Y GYMDEITHAS LLYWODRAETH LEOL , THRIVE, UK THEATRE, A CHYNGOR GWEITHREDU GWIRFODDOL CYMRU.

Mae'r enillwyr wedi'u cyhoeddi ar gyfer Gwobrau Hearts for the Arts 2022 Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau (NCA). Mae'r gwobrau'n dathlu arwyr tawel Awdurdodau Lleol sy'n siarad dros y celfyddydau er gwaethaf pob anfantais.

Derbyniwyd enwebiadau o bob cwr o'r DU ym mhob un o dri chategori'r gwobrau: Prosiect Celfyddydau Gorau; Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Gweithiwr Awdurdod Lleol; Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Cynghorydd

Ar ôl i gynrychiolwyr o bartneriaid Hearts for the Arts eleni greu’r rhestr fer o enwebiadau, dewiswyd yr enillwyr gan weithwyr proffesiynol proffil uchel yn y celfyddydau, busnes a newyddiaduraeth. Mae’r Cynghorydd Ffion Meleri Gwyn wedi’i dewis fel enillydd ‘Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Cynghorydd’ am ei harweinyddiaeth ysbrydoledig dros greadigrwydd, ac am arwain ystod o
brosiectau creadigol ac arloesol, gan gyfrannu’n aruthrol at les cymuned Criccieth yn ystod cyfnod heriol iawn i bawb.

Mewn ymateb i ennill dywedodd y Cyng. Ffion Meleri Gwyn:

“Mae’n bleser ac yn anrhydedd i mi ennill y wobr hon sy’n deyrnged i waith anhygoel ac ymrwymiad aelodau o’n cymuned, o’r ifanc i’r hen, mewn cymaint o brosiectau cofiadwy. Rydym yn byw mewn cyfnod digynsail ac mae’n wych gallu estyn allan trwy ein mentrau creadigol amrywiol i gynnwys cannoedd yn ein cymuned ddwyieithog. Mae’r prosiectau hyn wedi rhoi hwb i les pob un ohonom.”

Dywedodd Dr Catrin Jones, Clerc Cyngor Tref Criccieth:

“Llongyfarchiadau gwresog i’r Cyng. Ffion Meleri Gwyn ar ennill y wobr fawreddog hon mewn maes cystadleuol iawn. Yng nghyfnod Cofid, mae Ffion fel artist ac fel Cynghorydd, wedi gwireddu creadigrwydd mewn partneriaeth drwy osod esiampl o sut, er gwaethaf yr holl gyfyngiadau mae hi’n bosibl ac yn fuddiol i arloesi a chreu a gwneud celf yn antur gymunedol. Mae hi wedi darparu arweinyddiaeth ysbrydoledig ar ystod o brosiectau creadigol ac arloesol, gan weithio’n ddiflino i ymgysylltu â’r gymuned, gan annog pobl o bob cefndir i gymryd rhan. Er mwyn lansio a chyflawni Strategaeth Greadigol yn llwyddiannus mae angen un Ffion ar bob Cyngor.”


Wrth longyfarch y Cyng. Ffion Meleri Gwyn, dywedodd Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol :

“Mae’r ffaith bod Criccieth wedi elwa ar y fath anogaeth a chymorth yn adlewyrchu ei harweinyddiaeth, ei chreadigrwydd, a’i hegni yn ystod y pandemig. Mae’r llwyddiant hwn hefyd yn ardystio i’r gefnogaeth a ddarparwyd gan Gyngor Tref Criccieth wrth iddynt hwyluso’r gweithgareddau ac annog pobl i gymryd rhan ynddynt.”

Am restr lawn o enillwyr ewch i forthearts.org.uk/campaigns/hearts-for-the-arts/

Darllen yr erthygl i gyd yma