Hysbysiad o Gyfethol - Cynghorwyr Tref


Yr ydych yma: Newyddion > Hysbysiad o Gyfethol - Cynghorwyr Tref

RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod Cyngor Tref Criccieth yn bwriadu Cyfethol 1 aelod i lenwi’r sedd gwag sydd ar gael ar gyfer Cynghorydd.

Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r cyhoedd sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Tref dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu’r Undeb Ewropeaidd ac yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol: 

  • wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu
  • yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu’n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • wedi bod â’ch prif neu’ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf. 

Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd wag, neu’n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl Cynghorwyr Tref, cysylltwch â’r Swyddog Priodol, Dr Catrin Jones Clerc y Cyngor Tref yn Cae Gwenllian, Pentrefelin, Criccieth, Gwynedd LL52 0RB, or email clerccriccieth@gmail.com. Y dyddiad cau yw  31 Awst 2025

Dyddiedig yr 8fed diwrnod hwn o Orffennaf 2025

Hysbysiad o Gyfethol - Cynghorwyr Tref