Dathlu'r digwyddiad llwyddiannus Un Llais Cymru yn y Senedd


Yr ydych yma: Newyddion > Dathlu'r digwyddiad llwyddiannus Un Llais Cymru yn y Senedd

Ar ddydd Mercher Tachwedd 27ain 2024, cynhaliodd Un Llais Cymru arddangosfa lwyddiannus iawn yn adeilad Y Senedd ym Mae Caerdydd.

Hoffai Un Llais Cymru ddiolch i Carolyn Thomas AoS am ei charedigrwydd yn noddi a chefnogi’r digwyddiad. Roedd yn wych clywed Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur, a’r digwyddiad hwn, yn cael eu trafod yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog yn y Siambr y diwrnod cynt. Diolch i Carolyn a’r Prif Weinidog am ddarlun mor gadarnhaol.

Nod y digwyddiad oedd amlygu cyfraniad rhyfeddol Cynghorau Cymuned a Thref ledled Cymru gyda rhaglen ariannu Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur. Roedd yn gyfle unigryw i Aelodau o’r Senedd, partneriaid y rhaglen ac aelodau’r cyhoedd weld detholiad o brosiectau llwyddiannus Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur a siarad â’r gwirfoddolwyr fu’n rhan ohonynt.

Cafwyd saith arddangosfa gan y Cynghorau canlynol:

  • Cyngor Cymuned Betws
  • Cyngor Tref Cricieth
  • Cyngor Cymuned Hirwaun & Phenderyn
  • Cyngor Cymuned Johnston
  • Cyngor Tref Llandrindod
  • Cyngor Tref Cwmaman, gyda Chynghorau Cymuned Llanedi & Llannon
  • Cyngor Tref Pontypridd

Roedd arddangosfa Un Llais Cymru yn amlygu nifer o brosiectau llwyddiannus eraill a rhai sydd ar waith ar hyn o bryd. Roedd yn gyfle hefyd i ddysgu am y rôl ehangach y mae Un Llais Cymru yn ei chwarae yn hybu’r agenda Bioamrywiaeth o fewn y sector Cynghorau Cymuned a Thref trwy ein Swyddog Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur.

Yma gallwch lawr lwytho saith arddangosfa prosiect a welwyd yn ystod y digwyddiad.

Ar ein Sianel YouTube arbennig, fe welwch y fideos canlynol:

  1. Y fideo oedd yn chwarae ar y sgriniau trwy gydol y digwyddiad, sy’n cynnwys llawer o wybodaeth am raglen ariannu Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur, yn ogystal â fideos o rai o’r prosiectau a digwyddiadau eraill Un Llais Cymru.
  2. Fideo yn dangos uchafbwyntiau’r digwyddiad.
  3. Y drafodaeth yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog 26.11.24

Hoffem roi gair mawr o ddiolch i bawb a helpodd baratoi a chyflwyno’r  digwyddiad hwn ac a ddaeth ynghyd i’n cefnogi ar y dydd.
 

Logo Un Llais Cymru
Logo Ariennir gan Lywodraeth Cymru
Logo Lleoedd Lleol ar gyfer natur