Datganiad gan Gyngor Tref Cricieth am ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn y dref


Yr ydych yma: Newyddion > Datganiad gan Gyngor Tref Cricieth am ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn y dref

Mae Cyngor Tref Cricieth a llawer o drigolion y dref yn ymwybodol iawn o'r digwyddiadau hyngod ofidus o ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) gan rai pobl ifanc yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Byth ers i'r adroddiadau cychwynnol o ymddygiad o'r fath ddod i'r amlwg mae'r Cyngor wedi ymateb gyda phryder i'r adroddiadau hyn ar frys ac wedi cymryd camau amrywiol o fewn ei gyfrifoldebau i liniaru'r gweithgaredd cwbl annerbyni ol ac annymunol hwn sydd mor ofidus i bob un ohonom.

Yn fuan ar ôl yr adroddiadau cyntaf o ymddygiad gwrthgymdeithasol,bythefnos neu dair with nos yn ôl, gofynnodd aelod o’r cyngor am drafodaethau gydag uwch aelodau Heddlu Gogledd Cymru yn eu pencadlys ym Mae Colwyn. Rhoddwyd ymrwymiad yn y cyfarfod hwnnw y byddai mesurau yn cael eu gweithredu ar unwaith i reoli a gobeithio atal ymddygiad o’r fath yn gyflym.

Yn fuan wedi’r cyfarfod cyntaf hwn clywodd y Cyngor gan Heddlu Gogledd Cymru yn cadarnhau bod tim plisomona cymdogaeth De Gwynedd (ein hardal leol o fewn yr heddlu) yn cynyddu eu gweithgareddau yn y dref yn sylweddol, ac yn rhoi manylion beth fyddai hyn yn ei olygu o ystyried bod eu hadnoddau yn cael eu hymestyn ar hyn o bryd fel gyda llawer o awdurdodau.

Daeth yn amlwg yn fuan bod mwy o bresenoldeb plismona yn y dref, a’r penwythnos diwethaf – yn dilyn rhagor o ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwnaeth yr arestad a chafodd un o’r bobl ifanc ei ddal. Ers hynny, mae Cyngor Gwynedd wedi gwneud cais i ymestyn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO) a oedd eisoes ar waith o gamylch yr esplanâd a’r traeth dwyreinio hyd at y castell, i gynnwys y dref gyfan. Mae hyn yn caniatau I fesurau arbeninnig yr heddlu ddelio ag ASB. Yn anffodus, bu digwyddiadau pellach o hyd o’r patrwm ymddygiad gofidus hwn yn ystod y dyddiau diwethaf ac mae’r heddlu wedi bod yn weithgar iawn yn y cyffiniau a dros nos Iau/Gwener. Mae tri arestiad pellach o’r troseddwyr wedi’u gwneud.

Mae cyfarfod wedi ei drefnu gan Cyngor Gwynedd dydd Mercher nesaf 2 Hydref 4.30 – 6pm yn y Llyfrgell er mwyn cael barn y cyhoedd am ymestyn y PSPO (Public Space Protection Order) sydd yn yr ardal yma yn barod. Byddai yn dda cael cymaint i fynd draw ag sy’n bosib.

Mae’r Cyngor Tref yn gwbl ymwybodol o’r pryder, trallod a’r cythrwfl y mae’r patrwm ymddygiad hwn yn ei achosi a byddwn yn cynnal cyfarfod ffurfiol gyda’r tîm plismona lleol ddechrau’r wythnos nesaf i dderbyn adroddiad llawn gan swyddogion am ddigwyddiadau hyd yma a pha gamau eraill sy’n cael eu rhoi ar waith i atal digwyddiadau pellach.

Os bydd unrhyw un yn gweld neu’n dod yn ymwybodol o unrhyw ymddygiad o’r fath yn y dyddiau nesaf, lle mae perygl i unigolion neu ddifrod i eiddo, fe’ch cynghorir i ffonio 999 i roi gwybod am faterion, a gall yr heddlu ymateb ar frys.

Y Cyng. Delyth Lloyd, Cadeirydd Cyngor Tref Cricieth
28 Medi 2024

Diweddariad 22 Hydref 2024 gan Heddlu Gogledd Cymru
“Ni adroddwyd am unrhyw ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol pellach na throseddoldeb dros y 7 diwrnod diwethaf sy'n wirioneddol gadarnhaol a bod y bobl ifanc yn cydymffurfio ag amodau eu mechnïaeth. Rydym yn gweithio gyda thai, gweithwyr cymorth ieuenctid Gwynedd a’r ysgol i gael cyfarfodydd gyda’r ieuenctid a’r rhieni ar gyfer ataliaeth tymor hwy.”