Yr ydych yma: Newyddion > Datganiad ar y cyd: Trafnidiaeth Cymru a Network Rail
"Bydd lein y Cambrian rhwng Machynlleth a'r Amwythig yn parhau ar gau tan o leiaf ddiwedd dydd Gwener 25 Hydref yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau drên nos Lun.
"Mae'r digwyddiad yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd (RAIB) a bydd yn symud i ymgyrch adfer i gael gwared ar y trenau yr effeithir arnynt dros y dyddiau nesaf.
"Hoffai TrC a Network Rail ddiolch o galon i bawb yn y gymuned leol am y lefel aruthrol o gefnogaeth y maent wedi'i darparu yn ystod y digwyddiad anodd hwn.
"Bydd gwasanaeth bws arall yn parhau yn ei le yn galw ym mhob gorsaf ar y llwybr a dylai cwsmeriaid wirio cyn iddynt deithio a chaniatáu I deithiau gymryd mwy o amser nag arfer. Bydd gwasanaethau rhwng Machynlleth a Phwllheli/Aberystwyth a rhwng Amwythig a Birmingham International yn parhau i redeg fel y cynlluniwyd.
"Mae teithwyr yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw a gwirio ei thaith cyn teithio."