Yr ydych yma: Newyddion > Cynghorydd Ar Restr Fer Gwobrau Hearts For Arts
Mae’r rhestr fer wedi’i chyhoeddi ar gyfer Gwobrau Hearts for the Arts 2022. Mae’r gwobrau’n Ymgyrch Genedlaethol dros y Celfyddydau (NCA) 2022. Mae’r gwobrau’n dathlu arwyr di-glod Awdurdodau Lleol sy’n hyrwyddo’r celfyddydau yn groes i bob disgwyl.
Mae’r Cynghorydd Ffion Meleri Gwyn Cyngor Tref Criccieth Town Council, wedi’i henwebu ar gyfer Pencampwr Celfyddydau Gorau – Cynghorydd am ei gwaith yn darparu arweinyddiaeth ysbrydoledig i ystod o brosiectau creadigol ac arloesol, gan gyfrannu’n aruthrol at les cymuned Criccieth yn ystod cyfnod anodd iawn.
Bydd enillwyr eleni yn cael eu dewis o’r rhestr fer gan banel o feirniaid o arbenigwyr ac ymarferwyr allweddol yn y diwydiant celfyddydol, gan gynnwys:
Andy Dawson, Inspire Youth Arts, ennillyd gwobr HFTA 2021 ar gyfer Pencampwr Celfyddydau Gorau - Awdurdod Lleol neu Weithiwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Krishnan Guru-Murthy, newyddiadurwr a chyflwynydd Channel 4 News Kadiatu Kanneh-Mason, awdur, siaradwr a chefnogwr addysg cerddoriaeth Shaparak Khorsandi, digrifwr, llenor, hyfrydwch cyffredinol Anna Lapwood, organydd, arweinydd a darlledwr Deborah Meaden, gwraig fusnes a TV Dragon Jack Thorne, sgriptiwr a dramodydd Samuel West, actor a chyfarwyddwr, Ymddiriedolwr NCA
Er gwaethaf y pandemig, mae pobl greadigol a phrosiectau wedi bod yn cefnogi ac yn cynhyrchu celfyddydau lleol ledled y wlad eleni - gan helpu i leddfu’r pwysau ar y GIG a sefydliadau eraill yn y DU sy’n gyfrifol am ofal ac adsefydlu, a phrofi manteision creadigrwydd i iechyd meddwl a lles cyffredinol. Mae Gwobrau Hearts for the Arts yn fodd i ddathlu’r ymdrechion creadigol hyn ac i annog awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau diwylliannol i flaenoriaethu celfyddydau a diwylliant yn eu hardaloedd.
Derbyniwyd enwebiadau o bob rhan o’r DU ar gyfer pob un o’r tri chategori gwobrau eleni: Prosiect Celfyddydau Gorau; Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau - Gweithiwr Awdurdod Lleol neu Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol; a Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Cynghorydd.
Cafodd y rhestr fer ei beirniadu gan gynrychiolwyr o Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau ac o’r partneriaid dyfarnu eleni: Community Leisure UK, Creative Lives, Cymdeithas Llywodraeth Leol, Thrive ac UK Theatre.
Wrth drafod enwebiad y Cynghorydd Ffion Meleri Gwyn, dywedodd partneriaid Gwobr Hearts for the Arts:
“Mae’r Cyng. Ffion Meleri Gwyn yn ymgorffori'r ysbryd cymunedol cryf sy'n amlwg yn ardal Cyngor Tref Criccieth. Mae yn hawdd iawn i gynrychiolwyr etholedig wneud areithiau ac ymrwymiadau aruchel i wella ardal; mae’n llawer anoddach iddynt wneud gwahaniaeth mewn gwirionedd, a bod yn gysylltiedig ag ef yn bersonol fel y Cyng. Gwyn”.
Mewn ymateb i gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Cyng. Ffion Meleri Gwyn:
“Mae’n bleser ac yn anrhydedd i mi fod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon sy’n deyrnged i waith anhygoel ac ymrwymiad aelodau o’n cymuned, o’r ifanc i’r hen, mewn cymaint o brosiectau cofiadwy. Rydym yn byw mewn cyfnod digynsail ac mae’n wych gallu estyn allan trwy ein mentrau creadigol amrywiol i gynnwys cannoedd yn ein cymuned ddwyieithog. Mae hyn wedi rhoi hwb i les pob un ohonom.”
Dywedodd Dr Catrin Jones, Clerc Cyngor Tref Criccieth:
“Yng nghyfnod Cofid, mae Ffion Meleri Gwyn, fel artist ac fel Cynghorydd, wedi gwireddu creadigrwydd mewn partneriaeth drwy osod esiampl o sut, er gwaethaf yr holl gyfyngiadau angenrheidiol, yr oedd ac sy’n parhau i fod yn bosibl ac yn fuddiol i arloesi a chreu a gwneud celf yn antur gymunedol. Mae hi wedi darparu arweinyddiaeth ysbrydoledig ar ystod o brosiectau creadigol ac arloesol, ganweithio’n ddiflino i ymgysylltu â’r gymuned, gan annog pobl o bob cefndir i gymryd rhan. Er mwyn lansio a chyflawni Strategaeth Greadigol yn llwyddiannus mae angen un Ffion ar bob Cyngor.”
Bydd enillwyr Gwobrau Hearts for the Arts Calonnau 2022 yn cael eu cyhoeddi ar Ddydd San Ffolant, 14 Chwefror 2022.