Yr ydych yma: Newyddion > Cyfle i chi ddeud eich deud am eich cymuned
Mae Cyngor Tref Cricieth yn datblygu Cynllun Cymunedol newydd ar gyfer 2025-2030 i ddeall beth sy'n bwysig i chi sy'n byw yn y dref, i ymwelwyr sy'n dod yma, a busnesau a sefydliadau yn yr ardal. Bydd y Cynllun newydd yn adnabod gweithgareddau allai hybu ein tref, a pha rhai dylem ganolbwyntio arnynt ar gyfer y blynyddoedd nesaf.
Rydym eisiau gweld trigolion a busnesau'r dref yn dod ymlaen a bachu ar y cyfle yma i siapio beth fydd yn ein cynllun cymunedol.
Cyfle i chi leisio eich barn a rhannu syniadau.
Dyddiad cau yr holiadur: 28 Chwefror 2025
Sut mae gneud hyn?