Cyfethol i Seddau Gwag Achlysurol


Yr ydych yma: Newyddion > Cyfethol i Seddau Gwag Achlysurol

Cyfethol i Seddau Gwag Achlysurol

RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN ei fod yn fwriad gan y Cyngor Tref lenwi dwy sedd achlysurol cynghorydd drwy gyfethol i’r sedd wag sydd i’w llenwi.
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y swydd drwy lythyr gan unigolion sy’n gymwys i wasanaethu fel cynghorydd.

Dylid cyflwyno ceisiadau i Glerc y Cyngor erbyn 5 Medi 2022 – gweler manylion cyswllt isod.

Dr Catrin Jones Clerc y Cyngor /Clerk to the Council
Cae Gwenllian, Pentrefelin, Criccieth LL52 0RB
ebost: clerccriccieth@gmail.com