Cricieth Creadigol ar restr fer Gwobrau Bywydau Creadigol 2022


Yr ydych yma: Newyddion > Cricieth Creadigol ar restr fer Gwobrau Bywydau Creadigol 2022

Creadigrwydd a chymuned yn cael ei ddathlu gan fod Cricieth Creadigol ar restr fer Gwobrau Bywydau Creadigol 2022

  • Gwobrau blynyddol sy’n tynnu sylw at greadigrwydd cymunedol
  • 36 o grwpiau creadigol ar y rhestr fer o bob rhan o Loegr, Iwerddon/Gogledd. Iwerddon, yr Alban a Chymru
  • Pleidleisio nawr ar agor i’r cyhoedd ddewis enillydd Gwobr Dewis y Bobl www.creative-lives.org/2022-shortlist
  • Cyhoeddi'r enillwyr yn y Seremoni Wobrwyo yn Leeds ar ddydd Mawrth 7 Mawrth 2023, fel rhan o ddathliadau Blwyddyn Diwylliant LEEDS 2023.

O grwpiau crefft i gorau, cwmnïau drama i gerddorfeydd amatur, mae Bywydau Creadigol ar hyn o bryd yn dathlu grwpiau o bob rhan o’r DU ac Iwerddon, a’r cyfan y maent wedi’i gyflawni, trwy Wobrau Bywydau Creadigol eleni. Un o’r grwpiau ar y rhestr fer yw Cricieth Creadigol Creative Criccieth sydd wedi’i leoli yng Nghricieth. Dywedodd y Cyng. Sian Williams, Cadeirydd Cyngor Tref Cricieth:

“Mae Cyngor Tref Cricieth wedi adeiladu ar ei hanes o ymgysylltu creadigol ac wedi hwyluso nifer o brosiectau cymunedol llawn dychymyg sydd wedi cynnwys gwirfoddolwyr di-rif yn eu dylunio a’u creu. Rydym wrth ein bodd bod ein prosiectau creadigol wedi’u cydnabod gyda Gwobr Bywydau Creadigol yn 2021 a’n bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau 2022. Mae ein prosiectau, llawer mewn partneriaeth, wedi cynnwys nifer fawr o gymdeithasau gwirfoddol, ysgolion lleol, Coleg Meirion-Dwyfor, artistiaid unigol a thalentau creadigol eraill. Yn ogystal â hyrwyddo creadigrwydd maent wedi helpu i frwydro yn erbyn unigrwydd ac yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. Diolch yn fawr iawn i bawb sy’n cyfrannu ac yn ein cefnogi ar ein siwrne o greadigrwydd cymunedol. Gallwch bleidleisio i ni am Wobr Dewis y Bobl tan 27 Ionawr 2023.”

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Cricieth Creadigol ar restr fer Gwobrau Bywydau Creadigol 2022