Adeilad yr Hen Lyfrgell yng Nghriccieth


Yr ydych yma: Newyddion > Adeilad yr Hen Lyfrgell yng Nghriccieth

Cefndir

Mae perchnogaeth adeilad Hen Lyfrgell Criccieth wedi bod yn y fantol ers i Gyngor Gwynedd benderfynu symud y Llyfrgell ym 2017 i adeilad Encil y Coed drws nesa i’r Hwb Iechyd yn y dref. Mae perchnogaeth y tir a’r adeilad wedi bod yn destun barn a thrafodaeth gyfreithiol ers hynny. Nid yw'r Cyngor Tref wedi cwrdd yn yr adeilad ers Mawrth 2020.

Hanes yr Hen Lyfrgell

Rhodd er budd y gymuned oedd yr adeilad yma gan dirfeddianwyr ar dir oedd gynt yn eiddo ystâd Parciau. Perchennog y tir oedd dyn o’r enw John Thomas Jones a chafwyd arian o’r Carnegie Trust i adeiladu’r Hen Lyfrgell yno ar gyfer y gymuned yn 1902. Roedd cael y tir a’r adeilad yn amodol fod yna lyfrgell gyhoeddus yno i’r dref hyd nes na fyddai yno wasanaeth llyfrgell yno mwyach. Rhan o’r amodau oedd pe na bai’r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel llyfrgell, yna byddai’r tir wedyn yn cael ei gymryd yn ôl i ystâd y diweddar John Thomas Jones o Parciau. Agorwyd y Llyfrgell yn 1905.

Yn 1926 bu farw John Thomas Jones heb blant a gadawodd ystad Parciau i’w nai, John Trefor Roberts, oedd hefyd wedi marw heb blant. Pasiwyd yr ystad i’w chwaer, Margaretta, a fu farw heb blant ac wedyn i’r disgynyddion: enwir ei nith, Myfanwy Jane Hall fel y berthynas agosaf i John Trefor Roberts. Roedd ewyllys John Trevor Roberts yn barnu mai dim ond trwy ddisgynyddion ei fam (roedd Myfanwy yn ferch i Margaretta o Ynysgain Uchaf) y byddai buddion yr ewyllys yn digwydd.

Roedd tad John Trevor Roberts, Griffith John Roberts, yn dod o Brynsiencyn, Ynys Môn.

Bu farw Myfanwy yn 2000 yn ddi-blant ac felly dyna ddiwedd y llinell disgynyddion ochr mam John Trevor Roberts. Felly roedd ‘Deed of Covenant’ John Thomas Jones ac ewyllys John Trevor Roberts yn datgan fod yr ystad wedyn yn cael ei gymynroddi o gymunedau Criccieth a Brynsiencyn (trwy Cyngor Llanidan).

Beth yw’r sefyllfa gyfreithiol?

Ar ôl cyfnod o dderbyn cyngor cyfreithiol ar y ffordd ymlaen hefo dyfodol adeilad yr Hen Lyfrgell, barnwyd y gallai Cyngor Tref Criccieth hawlio o leiaf rhanberchenogaeth ar y tir ble mae adeilad yr Hen Lyfrgell. Mae adroddiadau cyfreithiol hefyd yn barnu fod gan Gyngor Llanidan hefyd hawl i hanner yr eiddo/tir gydag unrhyw fudd yn cael ei ddefnyddio i’w ddefnyddio ar gyfer dibenion y cymunedau hynny.

Mae Cyngor Gwynedd wedi gofyn am ‘indemnity’ gan bwy bynnag fydd yn derbyn y trosglwyddiad o’r eiddo gan y Cyngor rhag ofn i rywun rhyw dro herio trosglwyddiad yr eiddo i bwy bynnag sy’n derbyn yr eiddo.

O wneud hyn oherwydd termau’r ewyllys bydd yn rhaid i’r ddau gyngor sicrhau'r defnydd canlynol o’r elw sy’n dod o werthiant yr adeilad : “for aged poor persons living in the village of Brynsiencyn or within three miles thereof” a hanner “for aged poor persons living in the borough of Criccieth or within two miles thereof”. Byddai modd i’r ddau gyngor maes o law fynd at y comisiwn elusennau i geisio hawl i newid y telerau yma, ac mae hyn am fod yn gost i’w ystyried.

Beth yw’r penderfyniad wnaed gan Cyngor Tref Criccieth yn dilyn y farn gyfreithiol?

Roedd gan y Cyngor Tref yr opsiynau canlynol

  1. ceisio prynu siâr Cyngor Llanidan yn yr eiddo
  2. ceisio dod i ryw fath o drefniant efo Cyngor Llanidan i rentu siâr Llanidan yn yr adeilad neu i’w redeg mewn rhyw ffordd neu’i gilydd ar y cyd
  3. gwerthu’r adeilad a rhannu’r arian efo Cyngor Llanidan

Fel y cam nesaf, cytunwyd i drefnu bod yr arwerthwr Tom Parry yn prisio adeilad y Llyfrgell, a gweld os oedd modd gwahanu gwerth pris y tir a gwerth pris yr adeilad. Roedd hyn yn angenrheidiol cyn cychwyn unrhyw drafodaeth gyda Chyngor Llanidan am ddyfodol yr adeilad a’r posibiliadau yn deillio o hynny. Cafwyd amcan bris yr adeilad ar sail statws cynllunio a chyflwr yr adeilad.

Yn dilyn trafodaeth ofalus penderfynwyd gohebu gyda Chyngor Llanidan i gyfleu dymuniad Cyngor Tref Criccieth bod yr adeilad yn cael ei werthu a’r arian yn cael ei rhannu efo’r Cyngor hwnnw. Dyma oedd yr unig opsiwn ymarferol o dan yr amgylchiadau o ystyried costau mawr y ddau opsiwn arall. Mae cytundeb gyda Cyngor Llanidan i werthu’r adeilad ac i rannu’r elw rhwng y ddau Gyngor.

Beth yw’r sefyllfa bresennol?

Gofynnwyd i Gyngor Gwynedd werthu’r adeilad ar ran y ddau Gyngor. Rydym yn aros i’r adeilad fynd ar werth.